Elizabeth AdaJONESYn dawel yng Nghartref Annedd ar ddydd Sadwrn, Awst 9fed 2025 yn 95 mlwydd oed hunodd Betty, Delfan, Cwmsychbant (Penlan Fawr gynt). Priod annwyl y diweddar Dai, mam hoffus Eifion a'r diweddar Ieuan, mam-yng-nghyfraith Elenid, mamgu Hedydd, Catrin a Rhydian, a hen famgu Eben. Gwasanaeth angladdol cyhoeddus yng Nghapel Brynteg, Llanybydder ddydd Mercher, Awst 27ain 2025 am 1 o'r gloch. Blodau teulu agos yn unig. Rhoddion os dymunir tuag at 'Alzheimer's Society Cymru' trwy law Cenfil Reeves a'i Fab, Trefnwyr Angladdau, Garreg Wen, Talgarreg, Llandysul. Ffôn 01545 590254
Keep me informed of updates
Add a tribute for Elizabeth